Ysgol Sul
Pryd?
Bob bore Sul yn ystod tymhorau’r ysgol am 10 o’r gloch gan gychwyn yn y capel ac ymuno yn yr oedfa. Wedi canu emyn a gwrando ar ddarlleniad o’r Beibl bydd stori ar gyfer y plant a bydd criw yr ysgol Sul yn gadael am y festri yn ystod yr ail emyn.
Pwy?
Dosbarth y plant lleiaf:
athrawes - Lucy Clement-Evans.
Dosbarth 5-7 oed:
athrawes - Esyllt Bryn Jones
Dosbarth 8-11:
athrawes - Lowri Elis
Dosbarth Ieuenctid:
athrawes - Helen Davies ac eraill, a nifer o famau yn helpu.
Ysgrifenyddes:
Dilwen Lloyd Jones
Trysorydd:
Gwilym Owen
Beth?
Dod â’r Beibl yn fyw i’r plant trwy amrywiol weithgareddau.
Paratoi ar gyfer gwasanaethau arbennig e.e. Diolchgarwch a’r Nadolig
Cymryd rhan mewn unrhyw ymgyrch codi arian y mae’r eglwys wedi ymrwymo iddi.
Dysgu emynau newydd pan yn dod at ei gilydd ar ddiwedd yr Ysgol Sul a pharatoi am y Gymanfa Ganu ym mis Mai.
Parti Nadolig
gwerth ei gael ac anrheg gan Siôn Corn!
Beth arall?
Dosbarth ar gyfer yr oedolion am 11:15: Athro - Bill Davies
Cymerodd yr Ysgol Sul ran yn ymgyrch bocsus Nadolig Teams4U eleni eto a chaglwyd 30 o focsus llawn, lliwgar a hyfryd. Daeth nifer dda o'r boscsus gan aelodau'r gynulleidfa oedd yn awyddus i gefnogi gwaith yr Ysgol Sul.
Emaus Bangor