Y Cylch Darllen
Llyfr(au)'r Mis
Criw bychan o ryw wyth ar y mwyaf  fydd yn dod at ei gilydd bob mis i drafod llyfr ydy’r Cylch Darllen. Uwchben panad byddwn yn trafod pob math o lyfrau, gan amlaf yn llyfrau Cymraeg, ond ambell un Saesneg weithiau. Byddwn yn dewis y llyfr nesaf  ar argymhelliad aelod o’r grŵp sydd wedi cael blas arbennig ar lyfr neu oherwydd cyhoeddiad diweddar . Wrth gwrs mae cynnyrch yr Eisteddfod yn cael sylw - y Fedal Ryddiaeth a’r Daniel Owen- a hynny ddechrau Hydref fel arfer. Hollol anffurfiol ydy’r cyfan ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno.
Lleoliad - Festri Eglwys Emaus
Pryd - Dydd Gwener, 2 Chwefror am 2 o'r gloch
(Sylwch ar Y Digwyddiadur am gadarnhad.)
Y llyfr a drafodir yn y Cylch nesaf fydd:

"Y Plygain Olaf" gan Myfanwy Alexander.

2 o'r gloch ar Gwener, 2 Chwefror, 2018 yn Eglwys Emaus
Y Cylch nesaf fydd:
Brynhawn Gwener cyntaf y mis fel arfer am 2.00 o'r gloch bydd y Cylch Darllen yn cyfarfod i drafod nofel/llyfr gwahanol bob mis.
Nodir teitl newydd o fis i fis yn y Digwyddiadur a'r
Negesydd
Y Plygain Olaf - Myfanwy Alexander

Map Safle
Emaus Bangor       
DIGWYDDIADUR