Y gobaith yw y bydd eich hymweliad â'r wefan yn ennyn digon o chwilfrydedd ynoch i ymweld â ni yn ein hoedfaon. Bydd croeso twymgalon yn eich disgwyl. Rydym yn croesawu cyfeillion o bob cefndir enwadol yn ogystal ag unigolion sydd hyd yn hyn, heb fod yn gysylltiedig ag unrhyw eglwys o gwbl.
Yr ydym yn cydnabod Iesu Grist yn Arglwydd a Gwaredwr, a rhoddir cyfle i bobl aelod gyfrannu o’i ddawn i wasanaethu’r Gwaredwr.
Y mae yma ddrws a breichiau agored i’ch croesawu. Bendith arnoch!
Croeso...
i wefan Eglwys Emaus Bangor
Yn 2014 cychwynodd Eglwys Annibynnol Bangor ac Eglwys y Bedyddwyr Penuel ar y broses o sefydlu un eglwys gydenwadol. Erbyn hyn cwblhawyd y gwaith ac yr ydym bellach yn addoli o dan yr un to.
Cewch yma groesdoriad hyfryd o bobl yn hannu o bob rhan o Gymru. Y mae eu brwdfrydedd a'u hawydd i weithio dros Iesu Grist yn amlwg. Os gallwn fod o unrhyw gymorth cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r llwybr priodol ar y wefan.
Mae'r wefan hon yn y broses o gael ei hailwampio
Rhif Ffôn: 01248 351243
Emaus Bangor